Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol
  
 
  

 

 


Cofnodion y Cyfarfod:

Teitl y Grŵp Trawsbleidiol:

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Adeiladu

Dyddiad y cyfarfod:

13.03.23

Lleoliad:

MS Teams

Yn bresennol:

Enw:

Teitl:

Joyce Watson AS (JW)

 

Nitesh Patel (NP)

 

 

Tracey Jones, Llywodraeth Cymru (TJ)

 

 

Heather Davidson, Llywodraeth Cymru (HD)

 

Malcolm Davies, Llywodraeth Cymru (MD)

 

 

Catherine Williams, CEW (CW)

 

David Kirkby, CIOB (DK)

 

Jill Fairweather, Llywodraeth Cymru (JF)

 

Gareth W Evans, CWIC (GE)

 

Gareth Williams, CITB (GW)

 

 

Emma Link, CITB (EL)

 

Ifan Glyn, FMB (IG)

 

Mark Harris, HBF (MH)

 

Julia Stevens, CITB (JS)

 

Keith Jones, ICE (KJ)

 

Ken Pearson - Bluestone Builders

 

Gordon Brown, TFW (Prydain Fawr)

 

Mark Hennessey, ASD Build (MH)

 

Matt Kennedy, CITB (MK)

 

 

 

 

 

 

Ymddiheuriadau:

Enw:

Teitl:

 

 

 

 

 

 

Crynodeb o'r cyfarfod:

Dechreuodd y cyfarfod am 13:39. Croesawodd JW bawb i’r cyfarfod, ac ailadrodd yr hyn a ddigwyddodd yn y cyfarfod blaenorol, gan amlinellu bod y ffocws wedi bod ar y system addysg bellach ac ar ddenu a chadw prentisiaid. Soniodd JW am ymweliad a gynhaliwyd yn ystod wythnos genedlaethol Prentisiaethau â chontractwr toi, a nodwyd yr effaith a gâi prentisiaethau ar unigolion, sydd weithiau o gefndiroedd heriol.

Cyflwynodd JW destun y cyfarfod, sef sgiliau Sero Net, a dywedodd am yr her enfawr y mae’r diwydiant yn ei hwynebu yn hyn o beth, ond hefyd soniodd am y cyfle enfawr i uwchsgilio gweithwyr presennol a denu doniau newydd.

Croesawodd JW bawb, a chyflwynodd Heather Davidson (HD).

Roedd HD yn croesawu’r cyfle i gyflwyno amlinelliad o'r cynllun i'r Grŵp, a thynnodd sylw at y ffaith bod llawer rhagor o fanylion ar gael yn y cynllun ei hun, yn ogystal â'r dogfennau ategol. (Ar gael yma yn Saesneg, neu yn Gymraeg yma).

Amlinellodd HD fod y tîm wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol i gael gwell darlun o’r tirwedd sgiliau Sero Net yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ble mae’r rhwystrau’n bodoli a pha gamau y gellid felly eu cynnwys yn y cynllun.

Dywedodd HD fod Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi’i chomisiynu i gefnogi datblygiad y cynllun, a chynnal adolygiad cyflym o’r llenyddiaeth, a oedd yn cynnwys ffocws ar yr wyth sector allyriadau a nodwyd ar gyfer y cynllun.

Dywedodd HD fod y ffocws wedi bod ar ddull economi gyfan, o ystyried bod i’r newid i Sero Net y potensial i effeithio ar amrywiaeth eang o swyddi. Dechreuwyd felly drwy nodi bylchau, ac unrhyw ddyblygu o fewn rhaglenni presennol, a thrwy edrych ar sut y gellid cydgysylltu'r ddarpariaeth yn well ar draws adrannau'r llywodraeth.

Amlygodd HD fod y cynllun yn nodi 36 o gamau gweithredu ar draws saith maes blaenoriaeth. Dywedodd HD ei bod yn amlwg bod llawer o waith da yn digwydd ar draws pob sector, ond mae'r cynllun yn ymgais i ddod â'r arfer da ynghyd, a rhannu rhywfaint o'r dysgu hwnnw drwy ddull mwy cydgysylltiedig. Dywedodd HD fod adeiladu, fel sector, eisoes yn eithaf clir o ran ei gyfeiriad ar gyfer y dyfodol. 

Amlinellodd HD fod y cynllun yn greiddiol yn ceisio sicrhau bod cyflenwad digonol o dalent yma yng Nghymru i ateb y galw. Un o flaenoriaethau allweddol y cynllun yw deall beth yw sgiliau Sero Net. Felly, eglurodd HD ei fod yn ymwneud â datblygu dealltwriaeth gyffredin o'r sgiliau hyn, yr hyn y mae Sero Net yn ei olygu o ran sgiliau a gyrfaoedd yn ehangach. Tynnodd sylw at y ffaith y gallai’r gwaith y mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ei wneud ynghylch diffiniad helpu, o bosibl, i lywio’r dull gweithredu yma yng Nghymru.

Dywedodd HD fod Llywodraeth Cymru wedi dechrau datblygu tudalen we Sero Net i helpu i egluro beth yw’r cynnig i bobl, a sut yr effeithir ar swyddi/bywydau. Yn ogystal â hynny, mae grŵp cyfathrebu wedi'i sefydlu i helpu i ddatblygu negeseuon cyson a chlir.

Y flaenoriaeth nesaf yw gweithlu medrus – esboniodd HD fod hyn yn ymwneud â datblygu a chynyddu gweithlu amrywiol lle mae pobl yn wydn i’r newidiadau sydd eu hangen, ac yn gallu cael mynediad at hyfforddiant ac adnoddau priodol i wella eu sgiliau pan fo angen. Ymhelaethodd HD y gallai hyn gynnwys edrych ar y mathau o ddysgu a ddarperir, a sut mae hyn yn addas ar gyfer cefnogi'r gweithlu.

Dywedodd HD fod adborth gan gyflogwyr wedi bod yn gadarnhaol, ond roedd llawer yn ansicr ynghylch sut i gael cymorth. Felly, un ffocws allweddol fydd tynnu ynghyd pa gymorth sydd ar gael i gyflogwyr, a chyda’r llywodraeth yn ddiweddar wedi buddsoddi £3.5 miliwn i gefnogi cynllun peilot ar gyfer cyfrifon dysgu personol gwyrdd. Ar gyfer hyn, mae’r cap cyflog wedi’i ddileu ac mae grŵp arbenigol wedi helpu i sefydlu rhestr o gyrsiau a chymwysterau sy’n gymwys i gael cymorth.

Er mwyn gwneud pethau mor glir â phosibl i unigolion sy’n ymuno â’r diwydiant esboniodd HD y caiff llwybr at gymhwysedd ei ddatblygu, i helpu pobl i ddeall y llwybrau i ddod yn gymwys, a’r hyn y gallai hynny ei gynnwys ar draws gwahanol rolau.

Tynnodd HD sylw at y ffaith y byddai angen cryfhau'r system sgiliau er mwyn darparu'r cymwysterau cywir ar gyfer darparu’r cynllun. Bydd hyn yn dechrau drwy gynnal adolygiad parhaus o'r cynnwys presennol o ran fframweithiau a llwybrau prentisiaeth. Mae hyn yn cynnwys edrych ar gyrsiau byr i ategu sgiliau prentisiaid ifanc, a gweithredu fel ychwanegiad i'r rhai nad ydynt efallai wedi cael digon o wybodaeth yn ystod eu profiad dysgu cychwynnol.

Amlygodd HD bwysigrwydd hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael i blant a phobl ifanc, er mwyn helpu i ennyn diddordeb o oedran cynnar yn y mathau o gyfleoedd sydd ar gael yn y byd Sero Net. Mae hyn eisoes wedi’i nodi gan y Gweinidog fel ffocws allweddol, a bydd HD yn cynnal cyfarfodydd pellach gyda Gyrfa Cymru i ymchwilio i ddatblygu hyn ymhellach.

Dywedodd HD fod dros 200 o unigolion wedi cael eu cynnwys wrth ddatblygu'r cynllun ac y byddai'r dull partneriaeth hwn yn parhau – gan gydnabod nad yw datblygu a chyflawni'r cynllun yn rhywbeth y gellir ei wneud heb fod yn unedig. I'r perwyl hwnnw roedd grŵp mewnol wedi ei sefydlu, a byddai grŵp llywio allanol yn cael ei sefydlu, ac mae grŵp pedair gwlad eisoes wedi cyfarfod i rannu’r hyn a ddysgwyd.

Amlygodd HD mai ffocws terfynol y cynllun fyddai'r newid i Sero Net a'r broses o sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i elwa. O fewn hyn, ystyrir yr heriau o golli gwybodaeth o ddiwydiannau wrth i bobl ymddeol, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar raglen newid ymddygiad i gefnogi’r trawsnewid yn ehangach.

Dywedodd HD fod ymgynghoriadau pellach yn y misoedd nesaf yn cysylltu’r sectorau allyriadau, er mwyn deall yn well beth y mae’n ofynnol iddo ddigwydd nesaf, a rhai o’r gofynion penodol o ran y sector. Bydd y rhain hefyd yn edrych ar themâu trawsbynciol y cynllun gan gynnwys yr elfennau digidol, caffael, y Gymraeg a chydraddoldeb.

Diolchodd JW i HD am y cyflwyniad a’r trosolwg o'r cynllun, a gofynnodd sut y byddai'r cynllun o fudd ac yn cefnogi cyflogwyr llai.

Amlinellodd HD mai un darn o waith y mae'r adran yn awyddus i'w wneud yw edrych yn fanylach ar y rhwystrau y mae cyflogwyr o bob maint yn eu hwynebu wrth gael mynediad at hyfforddiant. Maent yn gwybod, o siarad âg unigolion yn y diwydiant, na all llawer o gyflogwyr bach fforddio i ryddhau staff, ac mae hynny wedi miniogi'r meddwl ynghylch darparu cyrsiau byrrach a dysgu mwy hyblyg.

Tynnodd JS sylw at y ffaith bod CITB hefyd yn ceisio deall anghenion hyfforddi cyflogwyr yn y maes hwn ac yn cynnig amrywiaeth o opsiynau ariannu i gefnogi hyn, a dywedodd fod gan CITB Rwydwaith Cyflogwyr wedi’i sefydlu yn Ne Orllewin Cymru sy’n rhoi rhagor o hyblygrwydd i gyflogwyr ddod o hyd i gyllid ar gyfer hyfforddiant mewn meysydd newydd, fel Sero Net, ac i helpu i ddatblygu hyfforddiant nad yw'n bodoli ar hyn o bryd.

Dywedodd MD ei fod yn gweithio ar y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio sy'n gweithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol a fydd yn ceisio gwella 230,000 o gartrefi yng Nghymru. Eglurodd MD mai'r her yn aml yw codi ymwybyddiaeth o fewn pob rôl mewn sefydliad, ac felly ei fod yn gweithio gyda Busnes Cymru ac yn edrych ar ffyrdd o gefnogi landlordiaid cymdeithasol gyda'u gweithgarwch caffael.

Amlygodd MD fod angen i'r dull hwn ystyried gweithgynhyrchu hefyd, a chyfeiriodd at yr enghraifft o bympiau gwres o'r ddaear lle nad yw 70% o'r cynhyrchion presennol yn tarddu o Brydain, ac felly mae cyfle mawr yn y maes hwn i ddatblygu sgiliau.

Amlygodd KJ fod gan Sefydliad y Peirianwyr Siartredig gymedrolwyr sy’n gweithio ar lefel Prifysgol i achredu cyrsiau, ac i helpu i sicrhau bod y cynnwys yn addas ar gyfer y dyfodol fel gwaith ehangach drwy Gynghrair Prentisiaethau Cymru.

Ychwanegodd KP fod cael digon o amser ar hyn o bryd i hyfforddi staff yn her barhaus. Tynnodd sylw at fod cynllun prentisiaethau a rennir, Cyfle, yn arbennig o lwyddiannus, ac at y gostyngiad yn y cyllid a gafodd hwn gan Lywodraeth Cymru, fel un sy’n cyfyngu ar nifer y prentisiaid y gall eu cymryd ar hyn o bryd.

Ar gyfer gweithwyr dros 55 mlwydd oed, awgrymodd KP y byddai angen cynnig cymhelliant i recriwtio'r bobl hyn fel mentoriaid i ddod â newydd-ddyfodiaid drwy’r camau dechreuol. Ac y gallai hyn greu profiad dysgu mwy ymarferol ac sydd wedi'i dargedu'n well. Awgrymodd KP y gallai cymhellion ariannol weithio'n dda i bobl ar yr adeg hon yn eu gyrfaoedd.

Mynegodd KP bryderon ei fod eisoes wedi gweld tystiolaeth bod rhai gosodiadau pympiau gwres eisoes yn cael eu gwrthdroi, yn sgil diffyg cynnal arolwg digonol o eiddo i ganfod yr ymyriadau angenrheidiol cywir i gynyddu effeithlonrwydd ynni. Awgrymodd KP y dylai arolwg clir fod yn rhagofyniad ar gyfer unrhyw waith sy'n cael ei wneud. Ychwanegodd KP fod angen gwneud rhagor o waith yn achos pympiau gwres, i hyfforddi aseswyr a rhai sy'n gosod pympiau, i sicrhau bod safonau a chymhwysedd digonol yn cael eu cynnal.

Gofynnodd GB i HD am y PLA Gwyrdd ac ai'r unigolyn neu'r busnes a fyddai’n gwneud cais uniongyrchol am hwn.

Eglurodd HD y gallai'r unigolyn wneud cais drwy'r coleg, ac y gallai busnesau hefyd wneud cais am gymorth drwy'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg (sy'n cael ei hariannu 50 y cant - tra bod y PLA yn cael ei ariannu 100%).

Ychwanegodd HD fod y mentora yn rhywbeth y mae'r llywodraeth yn awyddus i edrych arno, i sicrhau nad yw sgiliau'n gadael y diwydiant pan fydd cyfle, i gael effaith ar y rhai sy'n dod i mewn. Awgrymodd HD y dylid siarad â MK a JS yn CITB ymhellach am hyn.

Cododd JW fater hygyrchedd cyrsiau – yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig o Gymru.

Dywedodd HD fod hon yn her fawr a oedd yn cael ei hystyried gyda’r tîm cwricwlwm i ystyried partneriaethau agosach ag ysgolion, fel bod dysgwyr ifanc yn gwireddu potensial enfawr gyrfa mewn diwydiannau fel adeiladu. Dywedodd HD y byddai hyn hefyd yn ffocws i waith Llwybrau at Gymhwysedd, er mwyn ei gwneud yn gliriach beth oedd ei angen i weithio mewn gwahanol grefftau a dod yn gwbl weithredol.

Tynnodd JW sylw at y ffaith y dylid ystyried dull cyfannol ar yr un pryd, gan edrych ar yr hyn sydd ei angen ar gymunedau o ran pethau fel trafnidiaeth gynaliadwy hefyd, a dulliau newydd o adeiladu cartrefi oddi ar y safle.

Dywedodd HD fod angen meddwl ymhellach yn hynny o beth ac y byddai'r ymgynghoriadau sy'n cael eu cyhoeddi'n fuan yn helpu i ddod â'r pethau hynny at ei gilydd. Rhan o hyn fyddai sicrhau bod pob polisi a chynllun yn dechrau drwy feddwl am y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni tasgau, i ofyn a yw’r rhain yn bodoli yng Nghymru yntau nad ydynt, a gweithio gyda darparwyr Addysg Bellach i ateb y galw.

Eglurodd MH fod ASD Build yn adeiladu 40-50 o gartrefi cymdeithasol y flwyddyn, a bod eu gwaith yn canolbwyntio ar edrych ar y newid o nwy i bympiau gwres ffynhonnell aer. Eglurodd, o ystyried y bwlch mewn gwybodaeth a dealltwriaeth ar sut mae’r dechnoleg yn gweithredu mewn cartref, y gall fod yn sgwrs anodd i’w llywio, hyd yn oed wrth adeiladu cartrefi newydd, yn hytrach nag ôl-osod.

Gofynnodd MH a fyddai cyfle i ddod â phobl ynghyd o'r byd academaidd, gweithgynhyrchwyr, gosodwyr, adeiladwyr ac ati i siapio'r gweithlu yn seiliedig ar yr hyn sy'n cael ei ddylunio a'i ddynodi. Teimlai MH y byddai hwn yn gam mwy hirdymor i ymdrin â’r bwlch sgiliau/gwybodaeth.

Awgrymodd HD sgwrs ar wahân, i MH gyfrannu at rywfaint o’r gwaith o ran sut y byddai Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â’r diwydiant wrth roi’r cynllun ar waith, ond y byddai’r grŵp llywio allanol yn gwneud y gwaith cychwynnol o ystyried pwy i’w gynnwys ac ar ba rannau o’r gwaith y dylid canolbwyntio, fel nad yw'r grŵp yn mynd yn rhy fawr o ran aelodaeth.

Cytunodd KP ei bod yn bwysig dod â phobl â'r wybodaeth gywir i mewn i osod offer, a nododd fod gosod batris yn debygol o fod yn un o'r meysydd twf cyflymaf. Esboniodd KP fod yna broblem a her barhaus ynghylch tynnu ynni yn ôl oddi ar y grid, a noddodd Octopus Energy fel enghraifft yn hyn o beth, sydd wedi trafod rhywfaint o iawndal ar gyfer aelwydydd sy'n cymryd ynni yn ôl ar adegau o orgyflenwi trydan.

Dywedodd KP hefyd am un neu ddau o gynlluniau peilot sy'n cael eu cynnal yn lleol, sy’n gweithio mewn ysgolion a cholegau i roi sgyrsiau ac i gynnig cyfle i gael rhywfaint o brofiad gwaith ar y safle. Roedd hyn wedi arwain at ganlyniad cadarnhaol i un prentis ifanc y mae KP wedi'i enwebu ar gyfer gwobr genedlaethol. Cododd KP bryderon nad yw’r system bresennol wedi'i hanelu at ddysgwyr sydd â sgiliau galwedigaethol.

Dywedodd MK fod llawer o fanylion pwysig i'w hystyried o ran y cynllun, a thynnodd sylw at ymgynghoriad Just Transition y llywodraeth fel rhywbeth allweddol i aelodau'r grŵp ystyried ymateb iddo. Gofynnodd MK am y trefniadau yn y dyfodol ar gyfer adolygu a diwygio'r cynllun wrth i'r broses weithredu ddechrau, wrth i dystiolaeth newydd ddod i'r amlwg ac wrth i dueddiadau newydd ddod i'r amlwg ym maes diwydiant.

Ymatebodd HD i bwynt KP, gan roi sicrwydd eu bod yn gweithio'n agos gyda Chymwysterau Cymru i sicrhau y bydd pobl â chymysgedd o sgiliau a galluoedd gwahanol yn ymgysylltu o ran y pontio. Ar y pwynt ynghylch adolygu, nododd HD fod adolygiad o gymwysterau galwedigaethol eisoes yn mynd rhagddo ac y byddai hynny’n cynnwys elfen o ffocws ar Sero Net – a dylai’r cynllun ehangach o ran adolygu’r cynllun a’i elfennau ddatblygu ymhellach, unwaith y bydd camau i roi’r gweithgareddau ar waith wedi'u nodi'n glir.

Gofynnodd JW am yr amserlen sy'n gysylltiedig â'r cynllun. Awgrymodd HD fis Mai ar gyfer cyhoeddi’r cam nesaf, a bod cynllun ar gyfer ymgynghoriad am dri mis, gyda’r mapiau ffordd terfynol yn cael eu cyhoeddi tua diwedd y flwyddyn hon/dechrau’r flwyddyn nesaf.

Diolchodd JW i HD am ddod a chyflwyno’r wybodaeth i'r Grŵp, a gofynnodd a oedd unrhyw fusnes arall - nid oedd dim busnes arall i’w nodi.

Daeth Joyce Watson â’r cyfarfod i ben.